Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2014 i’w hateb ar 25 Mawrth 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan fusnes ar gyfer gwasanaethau ariannol? OAQ(4)1578(FM)

 

2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd gan fod yr adroddiad ar agweddau’r cyhoedd at ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant yn dangos yn glir gefnogaeth ar gyfer gwaharddiad?OAQ(4)1575(FM)

 

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch sut y mae system cynllunio Cymru yn sicrhau atebion teg i etholwyr Cymru?OAQ(4)1583(FM) TYNNWYD YNOL

 

4. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rhwydwaith bysiau Cymru? OAQ(4)1586(FM)

 

5. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu codi safonau i denantiaid yn y sector rhentu preifat?OAQ(4)1580(FM)

 

6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddewisiadau rhieni wrth iddynt ddewis ysgolion yn system addysg Cymru? OAQ(4)1577(FM)

 

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ficrosglodynnu anifeiliaid?OAQ(4)1576(FM)

 

8. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach yn Aberafan?OAQ(4)1582(FM)

 

9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau y mae Maes Awyr Caerdydd yn eu darparu?OAQ(4)1571(FM)

 

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i lygredd sŵn yn y Bil Cynllunio arfaethedig? OAQ(4)1572(FM)

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi’u cael ynglŷn â’r safonau iaith Gymraeg arfaethedig? OAQ(4)1584(FM)W

 

12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG?OAQ(4)1581(FM)

 

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Beth yw goblygiadau Datganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU i Gymru? OAQ(4)1579(FM)

 

14. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r seilwaith twristiaeth yn ne Cymru? OAQ(4)1573(FM)

 

15. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Islwyn yn elwa ar aelodaeth barhaus o’r Undeb Ewropeaidd?OAQ(4)1574(FM)